Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

         Cod Ymarfer Rhan 10 (Eirioli)


 

  Rhan 10

 

 

Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas ag Eiriolaeth o ran Rhan 10 a rhannau cysylltiedig o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

            Mae’r cod hwn yn dirymu cod ymarfer Rhan 10 (eirioli) a gyhoeddwyd fis Ebrill             2016.

 

Cynnwys

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 1

1. Rhaglith. 4

2.  Diben. 5

3.  Cyd-destun. 6

4.  Egwyddorion. 7

5.  Manteision eiriolaeth. 8

6. Beth yw eiriolaeth?. 9

7. Pam y mae eiriolaeth yn bwysig?. 10

8. Beth yw’r gwahanol fathau o eiriolaeth?. 11

9. Eiriolaeth wedi’i chyfarwyddo ac eiriolaeth heb ei chyfarwyddo 13

     Crynodeb o’r dulliau ar gyfer eiriolaeth heb ei chfarwyddo…………………………………………………13

10. Pryd y mae’n rhaid i awdurdod lleol ystyried anghenion eirioli unigolion?. 15

11. O dan ba amgylchiadau y gallai fod angen gwasanaethau eirioli ar unigolyn?. 17

12. Pa rwystrau sy’n gallu effeithio ar allu unigolion i ymgysylltu a chyfranogi’n llawn?. 18

13. O dan ba amgylchiadau y bydd yn briodol neu’n amhriodol i unigolyn weithredu fel eiriolwr?. 21

14. Diogelu. 23

15. Comisiynu gwasanaeth effeithiol 24

16. Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli 26

17. Codi ffioedd am eiriolaeth. 27

18. Ystyried amddifadu o ryddid. 28

19. Gwasanaethau eirioli sy’n bodoli’n barod. 29

20. Eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc eraill â hawl 30

21. Dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol i blant a phobl ifanc. 31

22. Dewis eiriolwr i blant a phobl ifanc. 32

23. Cwynion a sylwadau ar gyfer plant 34

Atodiad 1: Rôl yr Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol 37

Atodiad 2: Rôl yr awdurdod lleol yn cynorthwyo’r eiriolwr 39

Atodiad 3:  Swyddogaethau Awdurdodau Lleol Darparu eiriolaeth ac angen yr unigolyn am gymorth eiriolaeth. 40

Atodiad 4:  Dyletwyddau eirioli statudol eraill 42

 

 


 

                                                                          

 

1.  Rhaglith

 

1.         Cyhoeddir y Cod Ymarfer hwn ar Eiriolaeth (y Cod) o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

2.         Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael yn:

 

            http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/pdfs/anaw_20140004_we.pdf.

 

3.         Wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, mae’n rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â gofynion y Cod hwn. Nid yw adran 147 (gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion yn y Cod hwn. Yn ogystal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyflwynir yma.

 

4.         Yn y cod hwn mae gofyniad yn cael ei fynegi fel “rhaid” neu “ni chaniateir/rhaid...beidio”. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel “caiff/gall” neu “dylai/ni ddylai”.

 

5.         Dylid darllen y Cod hwn ochr yn ochr â phob cod ymarfer perthnasol a gyhoeddir o dan y Ddeddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion eirioli pobl pan fydd awdurdod lleol yn arfer swyddogaeth benodol mewn perthynas â’r person hwnnw. Dylid rhoi sylw penodol i Ran 2 (swyddogaethau cyffredinol), Rhan 3 (asesu anghenion unigolion), Rhan 4 (diwallu anghenion), Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) yn ogystal â chanllawiau statudol a gyhoeddir o dan Ran 7 (diogelu) a Rhan 9 (cydweithrediad a phartneriaeth) o’r Ddeddf.

 

6.         Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynorthwyo’r gwaith o weithredu’r Ddeddf drwy broses sy’n ymgysylltu â’n rhanddeiliaid. Elfen ganolog o’r dull gweithredu hwn yw’r broses o sefydlu grwpiau technegol sy’n cynnwys cynrychiolwyr sydd â’r arbenigedd, yr wybodaeth dechnegol a’r profiad ymarferol perthnasol i weithio gyda swyddogion ar y polisi manwl sydd ei angen i ddatblygu’r codau ymarfer, a fyddant yn eu tro yn gwireddu’r dyheadau polisi sy’n sylfaen i’r Ddeddf. Mae’r gwaith o ddiweddaru’r cod hwn hefyd wedi digwydd yn sgil ymarferiad cydgynhyrchu o’r fath. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


2.  Diben

 

7.     Mae’r Cod hwn yn nodi’r gofynion canlynol ar gyfer awdurdodau lleol:

 

a)    sicrhau bod mynediad at wasanaethau a chymorth eiriolaeth ar gael fel bod unigolion yn gallu ymgysylltu a chyfranogi pan fydd awdurdodau lleol yn arfer dyletswyddau statudol mewn perthynas â nhw;

b)    trefnu bod eiriolwr proffesiynol annibynnol yn hwyluso cyfraniad unigolion mewn amgylchiadau penodol. 

 

8.         Mae’r dyletswyddau cyffredinol o dan adran 6 o’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag unigolyn:

·         i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau pobl, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny.

 

9.         Yn ogystal, mae’n rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf:

·         roi sylw i bwysigrwydd darparu cynhorthwy priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.

 

10.       Mae’r dyletswyddau cyffredinol hyn, ynghyd ag Egwyddorion a Chonfensiwn y   Cenhedloedd Unedig o dan adran 7 o’r Ddeddf yn hanfodol i ddeall ac asesu canlyniadau llesiant pobl; yr hyn sy’n bwysig i bobl; ac anghenion gofal a chymorth pobl i’w galluogi i sicrhau eu canlyniadau llesiant personol. 

 

11.      Mae’r cod hwn yn nodi:

 

·                 dewis pobl i gael rhywun i eirioli drostynt;

·                 fframwaith clir i gefnogi a grymuso unigolion i wneud dewisiadau

cadarnhaol ar sail gwybodaeth;

·                 cydnabyddiaeth eglur o fanteision eiriolaeth;

·                 yr ystod o wasanaethau eirioli sydd ar gael i bobl;

·                 yr adegau allweddol pan fo’n rhaid i angen pobl am eiriolaeth gael           ei asesu;

·                 pryd y mae’n rhaid darparu eiriolaeth annibynnol;

·                 yr amgylchiadau sy’n effeithio ar angen pobl am eiriolaeth;

·                 yr amgylchiadau pan fo’n amhriodol i rai pobl eirioli;

·                 y trefniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli;

·                 codi ffioedd.

 

 

 

 

 

 

     3.  Cyd-destun

 

12.      Mae’r Ddeddf yn darparu’r fframwaith statudol i gyflawni rhwymedigaeth Llywodraeth Cymru i integreiddio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo pobl o bob oed, a chynorthwyo pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau.

 

13.      Bydd yn trawsnewid y modd y caiff y gwasanaethau cymdeithasol eu darparu, yn bennaf drwy hybu annibyniaeth pobl er mwyn rhoi mwy o lais a rheolaeth iddynt. Bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith hefyd yn rhoi mwy o gysondeb ac eglurder i’r bobl hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, gweithwyr cyflogedig awdurdodau lleol a’r cyrff sy’n bartneriaid iddynt, y llysoedd a’r farnwriaeth. 

 

14.      Mae’r Ddeddf yn hybu cydraddoldeb, yn gwella ansawdd gwasanaethau a’r wybodaeth a gynigir i bobl, gan roi pwyslais ar y cyd ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                          

             4.   Egwyddorion              

 

 

15.      Mae Pennod 2 yn nodi’r dyletswyddau penodol o dan y Ddeddf i ganfod barn, dymuniadau a theimladau pobl a darparu cynhorthwy i alluogi pobl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

 

16.      Er mwyn bod â llais a rheolaeth, mae’n rhaid i unigolyn allu teimlo ei fod yn bartner cyfartal gwirioneddol wrth ryngweithio â gweithwyr proffesiynol. O ganlyniad, mae gan unrhyw unigolyn hawl i arfer dewis a gwahodd unrhyw eiriolwr i’w gynorthwyo i fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau.

 

17.      Un o egwyddorion y Ddeddf yw’r angen i awdurdod lleol ymateb mewn ffordd gydgynhyrchiol i amgylchiadau penodol pob unigolyn, gan ganolbwyntio ar yr unigolyn.  Mae’n rhaid sicrhau bod unigolion a’u teuluoedd yn gallu cyfrannu’n llawn at y broses o ganfod a sicrhau eu canlyniadau llesiant drwy broses sy’n hygyrch iddynt.

 

18.      Mae’n rhaid i’r broses sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi eu hanghenion a’u bod yn gallu cyfrannu’n llawn fel partneriaid cyfartal. Mae’n rhaid i hyn gynnwys galluogi unigolyn i nodi ei fod eisiau cymorth gan rywun arall wrth bwyso a mesur ei opsiynau a gwneud penderfyniadau am ei ganlyniadau llesiant.

 

19.      Mae pwysigrwydd y teulu a ffrindiau o ran cynorthwyo person i ymgysylltu a chyfranogi’n llawn yn hanfodol bwysig. Mae cyfranogi’n llawn yn galluogi’r unigolyn i egluro a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau, gan sicrhau bod y rhain yn cael eu cydnabod ac y gweithredir arnynt; a’i fod yn teimlo ei fod wedi’i rymuso ac yn rheoli’r broses. Un elfen yn unig o fframwaith eirioli effeithiol yw’r teulu a ffrindiau. Mae Pennod 8 yn nodi’r gwahanol fathau o eiriolaeth.

 

20.      Rôl allweddol y gwasanaeth gwybodaeth, cynghori a chymorth, y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei sicrhau o dan Ran 2 o’r Ddeddf, fydd darparu gwybodaeth i unigolion am yr ystod o wasanaethau eirioli sydd ar gael yn eu hardal, a’u cynorthwyo i’w defnyddio os oes angen er mwyn eu helpu i sicrhau eu canlyniadau llesiant.

 

21.      Mae’r cod penodol hwn ar eiriolaeth yn cyd-fynd â’r rhwymedigaethau i sicrhau llais a rheolaeth gref, ac mae’n cael ei ategu gan yr holl godau ymarfer perthnasol a gyhoeddir o dan y Ddeddf. Mae’n galluogi awdurdodau lleol ac unigolion, mewn partneriaeth wirioneddol, i ystyried yr ystod o gymorth eiriolaeth sydd ar gael a rhoi’r trefniadau perthnasol ar waith. Bydd hyn yn cynnwys y gofynion penodol i’r awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol i gefnogi’r unigolyn pryd bynnag y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaeth berthnasol o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r person hwnnw. Nodir swyddogaethau perthnasol yn Atodiad 3.

 

 

 

 

 

5.    Manteision eiriolaeth 

 

22.      Dylid ystyried eiriolaeth yn elfen gynhenid o’r Ddeddf sy’n sicrhau bod gofal cymdeithasol yn canolbwyntio ar bobl a’u llesiant. Mae eiriolaeth yn helpu pobl i ddeall sut y gallant gyfranogi, cyfrannu a chymryd rhan, a sut y gallant arwain neu gyfarwyddo’r broses os oes modd.

 

23.      Drwy eiriolaeth, mae pobl yn bartneriaid gweithredol yn y prosesau gofal a chymorth allweddol sy’n nodi ac yn sicrhau atebion drwy wasanaethau ataliol; gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy; asesu; gofal a chymorth a chynllunio gofal; adolygu a diogelu.

 

24.      Mae’r Ddeddf:

 

·         yn sicrhau mai’r person a’i ganlyniadau llesiant yw canolbwynt y fframwaith newydd hwn;

·         yn sicrhau bod gan bobl lais a rheolaeth dros sicrhau’r canlyniadau hynny; 

·         yn cefnogi pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain; 

·         yn mesur llwyddiant y gofal a’r cynhorthwy hwn ar sail pob cyfraniad at lesiant; gan gynnwys pobl, teuluoedd, cefnogwyr, gwasanaethau ffurfiol ac anffurfiol.

 

25.      Er gwaethaf y rhwystrau y gall pobl eu hwynebu, mae’n rhaid i awdurdodau lleol gynnwys pobl i’w helpu i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau, eu cynorthwyo i bwyso a mesur opsiynau ac i wneud penderfyniadau am eu canlyniadau llesiant. Mae’r gofynion hyn yn berthnasol, waeth ble mae unigolyn yn byw, gan gynnwys yr ystad ddiogeledd. 

 


 

6.    Beth yw eiriolaeth? 

 

26.    Mae adran 181(2) o’r Ddeddf  yn diffinio “gwasanaethau eirioli” fel: gwasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth. Yn yr un modd, eiriolaeth yw un o’r enghreifftiau a nodir yn adran 34(2)(e) o’r hyn y gellir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolion o dan adrannau 35 i 45 o’r Ddeddf. 

 

27.    Mae eiriolaeth yn un o sawl math o gymorth sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i ymdopi â phroblemau bywyd.  

 

Advocacy supports and enables people who have difficulty representing their interests, to exercise their rights, express their views, explore and make informed choices.

 

Independent Advocacy supports the person regardless of the demands and concerns of others. It challenges the causes and effects of injustice, oppression and abuse and upholds human rights.” (OPAAL National Forum, 2008)

 

“Advocacy is taking action to help people say what they want, secure their rights, represent their interests and obtain services they need.  Advocates and advocacy schemes work in partnership with the people they support and take their side.  Advocacy promotes social inclusion, equality and social justice.”

(Action for Advocacy, 2002)

 

28.   Mae mathau eraill o gymorth yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, cwnsela, ymgyfeillio, mentora a chyfryngu, a gall pob un o’r rhain fod yn ddefnyddiol o dan amgylchiadau gwahanol. Mae’r Cod hwn yn canolbwyntio’n benodol ar eiriolaeth a dyletswyddau awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth eiriolwyr i sicrhau eu canlyniadau llesiant, a chymorth i weithio mewn partneriaeth â phobl berthnasol eraill i sicrhau’r canlyniadau hynny.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7. Pam y mae eiriolaeth yn bwysig? 

 

29.    Mae eiriolaeth:

 

·         yn diogelu unigolion sy’n agored i risg neu’n dioddef gwahaniaethu neu sy’n wynebu rhwystrau o ran cael mynediad at wasanaethau a/neu ymgysylltu â nhw;

·         yn siarad ar ran unigolion na allant siarad drostynt eu hunain;

·         yn grymuso unigolion sydd angen llais cryfach drwy eu galluogi i fynegi eu hanghenion eu hunain a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar sail gwybodaeth;

·         yn galluogi unigolion i gael gafael ar wybodaeth, archwilio a deall eu hopsiynau, a mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau;

·         yn rhoi pob cymorth i bobl wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

 

30.   Mae dwy brif thema yn perthyn i eiriolaeth:

 

·         siarad ar ran a siarad gydag unigolion nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, eu helpu i fynegi eu safbwyntiau a gwneud eu penderfyniadau a’u cyfraniadau eu hunain ar sail gwybodaeth;

·         mae eiriolaeth yn diogelu ac yn cynnal hawliau unigolion.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

                                                                          

 

8.    Beth yw’r gwahanol fathau o eiriolaeth? 

 

31.    Mae sawl math o eiriolaeth ar gael, ac mae gan bob un amcan cyffredin o gynorthwyo unigolion i ddweud eu dweud, i gadarnhau eu hopsiynau ac i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau. Mae gan bob math o eiriolaeth ei fanteision ei hun a dylai awdurdodau lleol gydnabod a gwerthfawrogi pob math o eiriolaeth. Mae dulliau eirioli wedi’u cyfarwyddo a dulliau heb eu cyfarwyddo ar gael.

 

32.   Mae gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill yn gwneud cyfraniad allweddol at eirioli ar ran unigolion wrth arfer eu gwaith proffesiynol bob dydd. Fodd bynnag, ar adegau gallai gwrthdaro buddiannau godi mewn perthynas â’r penderfyniad sy’n cael ei wneud. Bydd angen i weithwyr proffesiynol fod yn effro i sefyllfaoedd lle maent yn credu bod gwrthrychedd neu annibyniaeth y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei thanseilio, neu fod perygl i bobl feddwl hynny. O dan amgylchiadau o’r fath, mae’n rhaid ystyried rolau mathau eraill o eiriolaeth, gan gynnwys:

 

Hunaneirioli – pan fydd unigolion yn cynrychioli eu hunian ac yn siarad drostynt eu hunain.

 

Eiriolaeth anffurfiol – pan fydd aelodau’r teulu, ffrindiau neu gymdogion yn cynorthwyo unigolyn i fynegi ei farn, ddymuniadau a’i deimladau, sy’n gallu cynnwys siarad ar ei ran o bosibl.

 

Eiriolaeth gyfunol – yn ymwneud â grymuso grwpiau o unigolion sydd â

phrofiadau cyffredin i fynegi barn, dylanwadu ar newid a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

 

Eiriolaeth cymheiriaid – unigolyn sy’n rhannu profiad neu gefndir cyffredin yn eirioli ar ran unigolyn arall.

 

Eiriolaeth dinesydd – partneriaeth un i un hirdymor rhwng unigolyn ac eiriolwr dinesydd sydd wedi’i hyfforddi neu sy’n derbyn cymorth.

 

Eiriolwr gwirfoddol annibynnol – eiriolwr annibynnol a gwirfoddol sy’n gweithio am gyfnod byr neu ar bwnc penodol gydag un neu fwy o unigolion.

 

Eiriolaeth ffurfiol – mae’n gallu cyfeirio at rôl eirioli staff ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a meysydd eraill, lle y bo’n ofynnol i weithwyr proffesiynol ystyried ac ymdrin â dymuniadau a theimladau’r unigolyn yn rhinwedd eu swydd.

 

Eiriolaeth broffesiynol annibynnol mae hyn yn golygu eiriolwr proffesiynol, hyfforddedig, yn gweithio mewn partneriaeth un i un gydag unigolyn i sicrhau bod ei farn yn cael ei gyfleu’n gywir a bod ei hawliau’n cael eu cynnal. Gallai hyn ymwneud ag un pwnc neu â nifer o bynciau.  

 

Mae eiriolaeth broffesiynol annibynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ymwneud yn benodol â chynorthwyo unigolyn o ran ei anghenion gofal a/neu gymorth. Cyfeirir at eiriolwyr sy’n ymgymryd â’r math hwn o eiriolaeth fel Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol. Ceir rhagor o wybodaeth am rôl Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol a rôl yr awdurdod lleol i’w cefnogi yn Atodiad 1.

 

Dylid nodi bod gofynion statudol yn ymwneud ag eiriolaeth statudol annibynnol wedi’u nodi mewn deddfwriaeth arall, er enghraifft Deddf Galluedd Meddyliol 2005 sy’n cyfeirio at eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol. Gweler Pennod 19.

 


                                               

 

9.  Eiriolaeth wedi’i chyfarwyddo ac eiriolaeth heb ei chyfarwyddo

 

33.   Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng dulliau eirioli wedi’u cyfarwyddo a dulliau heb eu cyfarwyddo. Fel arfer, yr unigolyn sy’n cyfarwyddo’r eiriolwr, hyd yn oed os nad yw wedi ei atgyfeirio ei hun i’r cynllun eiriolaeth. Gyda’i gilydd, gallant sefydlu perthynas a nodi’r materion, yr amcanion a’r canlyniadau eiriolaeth arfaethedig yn unol â dymuniadau, dewisiadau a chydsyniad y defnyddiwr.

 

34.   Mae’n bosibl y bydd angen eiriolaeth heb ei chyfarwyddo pan na fydd yr unigolyn yn cyfarwyddo’r eiriolwr neu’n mynegi dewisiadau a phryderon oherwydd materion yn ymwneud â chyfathrebu a gallu. Eiriolaeth heb ei chyfarwyddo yw:

 

 “...taking affirmative action with or on behalf of a person who is unable to give a clear indication of their views or wishes in a specific situation.  The non-instructed advocate seeks to uphold the person’s rights; ensure fair and equal treatment and access to services; and make certain that decisions are taken with due consideration for their unique preferences and perspectives.

(Henderson (2006))

 

35.   Gall eiriolwyr nad ydynt yn cael eu cyfarwyddo fabwysiadu agweddau gwahanol tuag at gynrychioli’r unigolyn. Gall yr agweddau hyn fod yn seiliedig ar hawliau dynol, canolbwyntio ar yr unigolyn, ymwneud â gwaith goruchwylio neu weithredu fel tyst neu sylwedydd.

 

 

Crynodeb o’r dulliau ar gyfer eiriolaeth heb ei chyfarwyddo

 

Mae’r pedwar dull cydnabyddedig ar gyfer eiriolaeth heb ei chyfarwyddo wedi’u crynhoi isod. Cydnabyddir mai dull gweithredu integredig yw’r un mwyaf effeithiol wrth ddarparu eiriolaeth heb ei chyfarwyddo.

 

Dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau

Gyda’r dull hwn, swyddogaeth yr eiriolwr yw sicrhau, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, bod hawliau dynol sylfaenol y defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu hyrwyddo, eu hamddiffyn a, lle bo angen, yn cael eu defnyddio i gymryd camau cadarnhaol ar ran y defnyddiwr gwasanaeth. Os yw’r eiriolwr yn credu y gallai’r anghyfiawnder sy’n digwydd i’r defnyddiwr gwasanaeth fod yn anghyfreithlon, dylai geisio cynrychiolaeth gyfreithiol briodol ar gyfer y person.

 

Dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y person

Wrth dreulio amser gyda’r defnyddiwr gwasanaeth, ac efallai bobl eraill y mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, mae’r eiriolwr yn creu darlun o’i ffordd o fyw, ei hoffterau a’i anghenion. Gall yr eiriolwr gynrychioli safbwyntiau’r person yn annibynnol fel pe baent yn safbwyntiau i’r eiriolwr ei hun (O’Brien 1981). Wrth wneud hynny, mae’r eiriolwr yn codi proffil safbwyntiau unigryw’r defnyddiwr gwasanaeth, a thrwy hynny yn hybu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y person wrth ddarparu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau.

 

Dull gweithredu’r Briff Gwylio

Mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar 8 maes o ansawdd bywyd a ddefnyddir yn sail i gyfres o gwestiynau y gall yr eiriolwr eu gofyn, ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau neu i’r darparwr gwasanaeth. Mae’r Briff Gwylio yn darparu fframwaith ar gyfer holi a herio’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau neu’r darparwr gwasanaeth mewn ffordd anymosodol ac mae’n annog darparwyr gwasanaeth i sicrhau bod y defnyddiwr gwasanaeth yn ganolog i’r broses benderfynu.

 

Wrth ddefnyddio model y Briff Gwylio rhaid i eiriolwyr sicrhau bod nifer o faterion yn glir.[1]

 

Dull y Tyst-Arsylwr

Mae’n bosibl y bydd yr eiriolwr, wrth arsylwi ar y ffordd y mae’r cleient yn byw ei fywyd, yn gweld neu’n clywed pethau sy’n annerbyniol neu sy’n bygwth llesiant y person. Mae’n bosibl hefyd y byddant yn darganfod beth yw hoffterau a phleserau’r defnyddiwr gwasanaeth, a gall hyn yn ei dro gael ei ddefnyddio i gryfhau’r berthynas gadarnhaol. Nid yw’r dull hwn yn gofyn i’r eiriolwr wneud penderfyniadau neu dybiaethau - dim ond adrodd yn ffeithiol am ei arsylwadau a’u dwyn i sylw’r darparwyr gwasanaethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

10.   Pryd y mae’n rhaid i awdurdod lleol ystyried anghenion eirioli unigolion?  

 

Yn strategol

 

36.    Mae angen i awdurdodau lleol ddeall a chefnogi’r canlyniadau llesiant y mae pobl am eu cyflawni. Mae’r datganiadau ar ganlyniadau a nodir yn y Cod Ymarfer ar Swyddogaethau Cyffredinol yn pennu’r meysydd allweddol lle mae gofal a chymorth yn gallu gwneud gwahaniaeth i wella canlyniadau llesiant pobl. Maent yn cynnwys:

 

·            Llesiant – Rwy’n gwybod ac yn deall pa ofal, cymorth a chyfleoedd sydd         ar gael i mi ac rwy’n cael y cymorth sydd ei angen arnaf i, pan rwyf ei         angen, yn y ffordd rwyf ei eisiau;

·            Sicrhau hawliau– Mae fy hawliau yn cael eu parchu, mae gen i lais a

rheolaeth, rwy’n rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar fy mywyd, mae fy amgylchiadau unigol yn cael eu hystyried, rwy’n gallu siarad drosof fy hun neu mae gen i rywun i wneud hynny ar fy rhan ac rwy’n cael gofal drwy gyfrwng y Gymraeg os rwyf ei angen.

 

37.   Mae gwasanaethau eirioli yn hanfodol i gynorthwyo pobl i fynd ati i ymgysylltu a chyfrannu at ddatblygiad eu canlyniadau llesiant eu hunain.

 

38.   Atal, oedi neu leihau anghenion – cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i gefnogi annibyniaeth a lleihau ac oedi gwaethygiad angen critigol.

 

39.   Mae’r Cod(au) Ymarfer ar Swyddogaethau Cyffredinol (llesiant, asesiad o’r boblogaeth, atal, hyrwyddo mentrau cymdeithasol a darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy)yn nodi’r gofynion i awdurdodau lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu, amrywiaeth o wasanaethau ataliol. Bydd eiriolaeth yn cyfrannu at y gwaith o atal, oedi neu leihau anghenion gofal a chymorth pobl. Rhaid i’r ddarpariaeth o wasanaethau eirioli gael ei hystyried fel rhan o gyd-asesiad yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol o anghenion eu poblogaeth o dan adran 14 o ystod a lefel gwasanaethau ataliol o dan adran 15 o’r Ddeddf. 

 

40.   Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy – dylai pawb gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chynhorthwy ar sut i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Cyn cysylltu â’r awdurdod lleol, mae’n bosibl y bydd angen eiriolaeth ar rai unigolion i’w helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor perthnasol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion o’r fath wrth sicrhau bod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn hygyrch a bod y cymorth priodol ar gael. 

 

41.   Dylai fod modd i anghenion eirioli unigolion gael eu hadnabod pan gysylltir â nhw am y tro cyntaf. Bydd yr unigolion eu hunain neu’r rhai sy’n agos atynt yn nodi’r angen hwn yn aml, ond mae’n rhaid i staff fod â’r sgiliau priodol i adnabod unigolion y mae angen eiriolwr arnynt.

 

42.   Mae eiriolaeth anffurfiol, eiriolaeth gyfunol, eiriolaeth cymheiriaid, eiriolaeth dinesydd ac eiriolaeth wirfoddol annibynnol yn ffynonellau cymorth eiriolaeth da ar gyfer unigolion, gan eu galluogi i ymgysylltu, deall a chymryd rhan yn natblygiad eu canlyniadau llesiant. Fodd bynnag, ni fydd y cymorth hwn ar gael bob amser, a bydd angen eiriolwr proffesiynol annibynnol ar adegau.

 

43.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio canlyniadau eu hasesiad ar y cyd o’r boblogaeth, sy’n cael ei gynnal ganddynt gyda’r Byrddau Iechyd Lleol, i lywio trefniadau partneriaeth o dan Ran 9 ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli. Mae eirioli yn cynnwys yr ystod lawn o ddarpariaeth a nodir yn Atodiad 3. Dylai rhywfaint o’r gwaith hwn ganolbwyntio ar y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau rheng flaen, h.y. i gynorthwyo pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy.

 

44.   Mae trefniadau comisiynu ar y cyd effeithiol yn gwella profiadau unigolion drwy ddefnyddio dull holistaidd sy’n rhwystro dyblygu; yn gwella cyfathrebu rhwng unigolion ac ymarferwyr, gan ddarparu gwasanaethau integredig a sicrhau canlyniadau cyffredin.

 

45.   Mae gan awdurdodau lleol brofiad sylweddol o adnabod y ffactorau sy’n effeithio ar allu unigolion i ymgysylltu a chyfrannu at lunio’r gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau bodlon.

 

46.   Mae pob un o’r codau ymarfer yn nodi’r angen penodol i weithwyr proffesiynol ac unigolion lunio barn ar gyfraniad posibl eiriolaeth.

 

Gweithredol

 

47. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol ar gyfer person nad yw’n gallu goresgyn y rhwystr(au) i gymryd rhan yn llawn yn y prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu heb gael cymorth gan unigolyn priodol, ond nad oes unigolyn priodol ar gael.

 

48. Mae cymryd rhan yn llawn yn golygu bod unigolion yn gallu mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau neu fod eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn cael eu cynrychioli a’u hystyried; eu bod yn deall eu hawliau a’u hawlogaethau; y broses o wneud penderfyniadau; beth sy’n bwysig iddynt; y canlyniadau llesiant personol y maent am eu sicrhau; y rhwystrau i sicrhau’r canlyniadau hynny, a’r opsiynau a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt. 

 

49. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl statudol i eiriolaeth broffesiynol annibynnol i bob plentyn sydd angen gofal a chymorth. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys rhagdybiaeth bod plentyn anabl yn blentyn sydd angen gofal a chymorth o dan Adran 2(7) o’r Ddeddf.

 

50. Mae prosesau asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu a diogelu yn cwmpasu’r ystod lawn o swyddogaethau o dan y Ddeddf a restrir yn Atodiad 3.

 

51.   Mewn rhai amgylchiadau mae’n bosibl na fydd yn briodol penodi eiriolwr proffesiynol annibynnol ac y bydd angen math gwahanol o eiriolwr statudol; gweler pennod 19 am arweiniad pellach.

 

52.   Mae’r ddogfen yn Atodiad 3 yn rhestru’r swyddogaethau lle mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried angen yr unigolyn am ddarpariaeth cymorth eirioli.  

                                                                          

 

11. O dan ba amgylchiadau y gallai fod angen gwasanaethau eirioli ar unigolyn?  

 

53.   Mae Atodiad 3 yn pennu’r ystod lawn o swyddogaethau wrth ystyried rôl eiriolaeth mewn partneriaeth ag unigolyn. Bydd amgylchiadau a chyfnodau newid neu bontio penodol yn arwyddocaol i’r unigolyn, ac mae’n bosibl y bydd ei anghenion eirioli yn cynyddu ar yr adegau hyn. Mae’r amgylchiadau a’r cyfnodau hyn yn cynnwys:

 

·            gwneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith arwyddocaol ar fywyd

                                    bob dydd yr unigolyn, gan gynnwys:

 

a)    asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygiadau;

b)    diogelu;

c)    cael hyd i wybodaeth, cyngor a chynhorthwy; 

d)    ble mae’n mynd i fyw;

e)    asesu trefniadau gofal a chymorth anffurfiol, neu newidiadau i’r trefniadau hynny;

f)     newid o dderbyn gofal a chymorth drwy gynllun gofal a chymorth, neu gynllun cymorth os yw’r unigolyn yn ofalwr, i dderbyn gofal a chymorth drwy gymorth llesiant ataliol yn y gymuned.

 

·            pan fydd ffactorau allanol yn effeithio ar drefniadau gofal a chymorth

unigolyn, er enghraifft, methiant darparwr; cartref gofal yn cau; trefniadau

rheoli neu berchenogi cartrefi gofal yn newid;

 

·         pan fydd amheuaeth bod yr unigolyn mewn perygl o gael ei niweidio neu ei esgeuluso, a’i fod yn destun pryderon diogelu gan gynnwys bod yn destun ymchwiliad o dan Adran 126 (oedolion sy’n wynebu risg) o’r  Ddeddf neu adran 47 o Ddeddf Plant 1989, camau gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion o dan adran 127 (Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion) neu adroddiad o dan adran 128 (dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risg) neu adran 130 (dyletswydd i hysbysu am blant sy’n wynebu risg);

 

·         wrth baratoi i adael yr ysbyty a dychwelyd i’r gymuned.

 

54.    Mae sicrhau bod gan unigolion a’r rhai sy’n eu cynorthwyo’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall a chyfrannu’n llawn at y broses o wneud penderfyniadau yn elfen hanfodol o sicrhau eu llesiant. Dylid ymgynghori’n llawn â phawb perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

 

55.    Os nad yw partïon yn gallu cytuno ar yr angen i’r awdurdod lleol sicrhau eiriolwr proffesiynol annibynnol, mae’n rhaid hysbysu’r unigolyn am ei hawl i ddefnyddio’r weithdrefn gwyno ac i dderbyn cymorth yn ystod y broses.

 

56.    Dylai’r awdurdod lleol hysbysu’r achwynydd bod cyngor a chymorth ar gael, gan gynnwys gwasanaethau eirioli o bosibl. Nid yw hyn yn rhwystro awdurdod lleol rhag cynorthwyo unigolion sy’n cwyno i ddod o hyd i eiriolwr nac yn rhwystro’r awdurdod lleol rhag trefnu’r cymorth ei hun.


 

                                                                          

 

12. Pa rwystrau sy’n gallu effeithio ar allu unigolion i ymgysylltu a chyfranogi’n llawn?

 

57.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydweithio â phob unigolyn er mwyn ystyried a yw’r unigolyn yn debygol o wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at bennu ei ganlyniadau llesiant a dod i benderfyniad ynglŷn â’i anghenion ar gyfer cymorth eiriolaeth. Bydd y rhwystrau allweddol yn cynnwys materion a sefyllfaoedd a fydd yn amharu ar allu unigolion i:

 

·                 ddeall gwybodaeth berthnasol

·                 cofio gwybodaeth

·                 defnyddio neu bwyso a mesur gwybodaeth

·                 mynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau.

 

58. Mae’n bosibl y bydd unigolion yn dod ar draws rhwystrau yn sgil y rhwystrau        allweddol hyn a nodwyd, neu’n ogystal â hwy. Er enghraifft:

 

·         Mae’n bosibl na fydd unigolion yn gallu canfod ffynonellau gwybodaeth heb gymorth eiriolwr;

 

·         Mae’n bosibl y bydd iechyd a llesiant corfforol ac emosiynol unigolyn yn effeithio ar ei allu i gael gafael ar wybodaeth a phenderfynu ar ei ganlyniadau llesiant;

 

·         Mae’n bosibl y bydd unigolyn yn wynebu rhwystrau ieithyddol sy’n ei gwneud yn anodd iddo gael gafael ar wybodaeth a/neu wasanaethau;

 

·         Mae’n bosibl y bydd unigolion sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn profi anawsterau wrth gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, a gallai hynny olygu bod angen cymorth eirioli arnynt.

 

Deall gwybodaeth berthnasol

 

59.   Mae modd cynorthwyo llawer o unigolion i ddeall gwybodaeth berthnasol os yw’n cael ei chyflwyno’n briodol a’i hegluro’n drylwyr. Fodd bynnag, ni fydd rhai unigolion yn gallu deall gwybodaeth berthnasol.

 

Cofio gwybodaeth

 

60.    Os na all unigolyn gofio gwybodaeth yn ddigon hir i allu pwyso a mesur ei opsiynau a gwneud penderfyniadau, mae’n debygol o wynebu rhwystrau i ymgysylltu a chyfrannu at y broses o benderfynu ei ganlyniadau llesiant. 

 

Defnyddio neu bwyso a mesur yr wybodaeth fel rhan o’r broses o gymryd rhan

 

61.   Mae’n rhaid i unigolyn allu pwyso a mesur gwybodaeth er mwyn cyfranogi’n llawn a mynegi dewisiadau neu ddewis rhwng opsiynau. Er enghraifft, bydd rhaid iddo allu pwyso a mesur manteision ac anfanteision symud i gartref gofal neu derfynu perthynas sy’n ei danseilio. Os nad yw’n gallu gwneud hyn, mae’n debygol o wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at y broses o benderfynu ei ganlyniadau llesiant.

 

Cyfleu barn, dymuniadau a theimladau

 

62.   Mae’n rhaid i unigolyn allu cyfleu ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau drwy siarad, ysgrifennu, defnyddio iaith arwyddion neu drwy gyfrwng arall er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau a gwneud blaenoriaethau’n glir. Os nad yw’n gallu gwneud hyn, mae’n debygol o wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at y broses o benderfynu ei ganlyniadau llesiant.

 

 

63.   Os yw person yn wynebu un neu fwy o’r rhwystrau hyn oherwydd nam meddyliol neu aflonyddu ar y meddwl neu’r ymennydd, mae’n bosibl nad oes gan y person alluedd i wneud penderfyniad, a dylid gwneud asesiad o’i alluedd o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Gall hyn effeithio ar y math o eiriolaeth y gellir ei darparu i’r person yn briodol.

 

 

64.   Wrth gomisiynu gwasanaethau eirioli, rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ddyletswydd sydd ganddynt, o ran cydraddoldeb y sector cyhoeddus, i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

 

Dyma’r nodweddion gwarchodedig:

·         Oedran

·         Anabledd

·         Ailbennu rhywedd

·         Priodas a phartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth yn unig)

·         Beichiogrwydd a mamolaeth

·         Hil

·         Crefydd neu gred

·         Rhyw

·         Cyfeiriadedd rhywiol.

 

65.   Mae’n bosibl y bydd unigolyn sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn gweld bod rhwystrau penodol yn ei atal rhag cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, heb gymorth gan eiriolwr. Er enghraifft:

 

·         Unigolyn ag anawsterau dysgu, gwybyddol neu iechyd meddwl, a allai fod angen cymorth eiriolwr i allu deall neu gofio gwybodaeth;

·         Unigolyn â nam ar ei synhwyrau a allai fod angen cymorth gan eiriolwr yn ogystal â chymorth cyfathrebu;

·         Unigolyn y gallai fod gwrthdaro buddiannau rhyngddo a’i deulu neu ei ffrindiau, yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig.

 

 

 

Y Gymraeg

 

66.   Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd statudol i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, sy’n esbonio sut y dylent hwy fel sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd hyn yn fodd i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol neu a gontractir ganddynt.


 

13. O dan ba amgylchiadau y bydd yn briodol neu’n amhriodol i unigolyn weithredu fel eiriolwr?

 

67.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â’r unigolyn, er mwyn ystyried a oes unigolyn priodol ar gael a all hwyluso rhan yr unigolyn yn y broses asesu, cynllunio gofal a chymorth, adolygu neu ddiogelu (gweler paragraff 49 uchod), ac mae hyn yn cynnwys tair ystyriaeth benodol. Ni chaiff yr unigolyn fod yn un o’r canlynol: 

 

·         rhywun nad yw’r unigolyn eisiau cael cymorth ganddo;

·         rhywun sy’n annhebygol o allu cynorthwyo cyfranogiad yr unigolyn yn

ddigonol, neu na fydd ar gael i wneud hynny;

·         rhywun sydd wedi’i enwi mewn ymchwiliad i gamdriniaeth neu esgeulustod neu y mae ei weithredoedd wedi dylanwadu ar benderfyniad awdurdod lleol i ystyried camau gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion neu weithgarwch amddiffyn plentyn.

 

68.   Mae gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill yn gwneud cyfraniad allweddol at eirioli ar ran unigolion wrth arfer eu swyddogaethau proffesiynol bob dydd. Fodd bynnag, gall y broses o wneud penderfyniadau arwain at wrthdaro buddiannau ar adegau. Bydd angen i weithwyr proffesiynol fod yn effro i sefyllfaoedd lle maent yn credu bod gwrthrychedd neu annibyniaeth y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei thanseilio, neu fod perygl i bobl feddwl hynny. O dan amgylchiadau o’r fath, mae’n rhaid ystyried swyddogaethau mathau eraill o eiriolaeth a amlinellir yn Atodiad 3 i sicrhau barn, dymuniadau, teimladau a chanlyniadau llesiant unigolion.

 

69.   Disgwylir i unigolion priodol gynorthwyo, cynrychioli a hwyluso cyfranogiad unigolyn wrth sicrhau ei ganlyniadau llesiant. Er mai aelod o’r teulu, ffrind neu rywun sy’n rhan o’r fframwaith cymorth ehangach fydd yr unigolyn hwn yn aml, mae’n debyg y bydd yn anodd i rai pobl gyflawni’r swyddogaeth hon. Er enghraifft, aelod o’r teulu sydd â chyswllt achlysurol yn unig â’r person; priod sydd hefyd yn ei chael yn anodd deall prosesau’r awdurdod lleol; ffrind sy’n mynegi safbwyntiau cryf ei hun cyn canfod safbwyntiau’r unigolyn perthnasol. Nid yw’n ddigon i adnabod y person yn dda. Rôl yr unigolyn priodol yw cynorthwyo ymgysylltiad a chyfranogiad llawn yr unigolyn wrth bennu ei ganlyniadau llesiant.  

 

70.   Dylid parchu dymuniadau unigolyn i beidio â chael ei gynorthwyo gan ffrindiau neu aelodau’r teulu. Os oes gan yr unigolyn y galluedd i gydsynio, mae’n rhaid dilyn ei ddymuniadau. Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd unigolyn yn dymuno cael ei gynorthwyo gan berthynas oherwydd gwrthdaro buddiannau posibl wrth symud ymlaen.  

 

71.   Os penderfynir nad oes gan unigolyn y galluedd i wneud penderfyniad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon ei bod er budd pennaf yr unigolyn i gael ei gynorthwyo a’i gynrychioli gan yr aelod o’r teulu neu ffrind.

 

72.    Wrth reswm, ni fydd yn addas ystyried person yn unigolyn priodol os yw’n cael ei enwi mewn unrhyw ymchwiliad i gam-drin neu esgeuluso oedolyn neu blentyn, neu os yw ei weithredoedd wedi dylanwadu ar benderfyniad awdurdod lleol i ystyried arfer ei gyfrifoldebau diogelu.

                                                                          


 

 

 

14. Diogelu

 

73.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r angen i helpu i amddiffyn oedolion a phlant rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae gan awdurdodau lleol brofiad o gynorthwyo oedolion i benderfynu faint o risg maent yn gallu ei rheoli. Mae Pennod 13 yn nodi amgylchiadau lle mae’n amhriodol i rywun weithredu fel eiriolwr.

 

74.   Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gydweithio â’r unigolyn i ystyried a dod i gasgliad ynglŷn â threfniadau i benodi eiriolwr proffesiynol annibynnol ar gyfer unigolyn sy’n destun ymchwiliad diogelu o dan adran 126 o’r Ddeddf neu adran 47 o Ddeddf Plant 1989, neu sy’n destun trefniadau ar gyfer gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion o dan adran 127 o’r Ddeddf. Os yw eiriolwr proffesiynol annibynnol eisoes wedi’i drefnu o dan y Ddeddf hon neu IMCA o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, mae modd defnyddio’r un eiriolwr oni bai bod hynny’n amhriodol.

 

75.   Os oes angen cychwyn ymchwiliad diogelu ar frys, mae modd iddo gychwyn cyn bod eiriolwr yn cael ei benodi, ond mae’n rhaid penodi eiriolwr cyn gynted ag y bo modd. Mae’n rhaid i’r holl asiantaethau diogelu wybod sut i gael gafael ar wasanaethau eirioli a beth yw eu rôl.  

 

76.   Mae’n hanfodol bod yr unigolyn yn derbyn cymorth yn y maes sensitif hwn sy’n gallu ymddangos yn broses lethol ac yn gallu arwain at rai penderfyniadau anodd iawn. Gall unigolyn y credir iddo gael ei gam-drin neu ei esgeuluso deimlo mor ddigalon, ofnus, llawn embaras neu ofidus nes y bydd eiriolaeth annibynnol a ddarperir o dan y Ddeddf i’w alluogi i fynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau a chyfranogi’n llawn yn hanfodol bwysig. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

                                                                          

 

15. Comisiynu gwasanaeth effeithiol

 

77.   Gall un awdurdod lleol neu fwy gydgysylltu’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau eirioli ar y cyd neu ar sail ranbarthol. Mae Rhan 9 o’r Ddeddf yn galluogi awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a phartneriaid perthnasol eraill i sefydlu trefniadau partneriaeth ffurfiol ac anffurfiol a chyfrannu at gronfa gyfun er mwyn gwella llesiant plant ac oedolion.  

 

78.    Mae gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ystod o gyfrifoldebau i sicrhau gwasanaethau eirioli ar gyfer unigolion o bob oed. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried gyda byrddau iechyd lleol sut mae trefniadau comisiynu ar y cyd yn gallu cyfrannu at sicrhau gwerth am arian ar gyfer comisiynwyr a chynaliadwyedd ar gyfer darparwyr.

 

79.    Mae trefniadau comisiynu ar y cyd effeithiol yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael sy’n ymateb i anghenion a dewisiadau pobl, gan gynnwys monitro rheolaidd i sicrhau bod y trefniadau yn effeithiol ac yn defnyddio adborth i lywio gwelliant. 

 

80.    Dylai’r egwyddorion canlynol gael eu hadlewyrchu yn y trefniadau ar gyfer cynllunio, comisiynu, monitro ac adolygu gwasanaethau eirioli yn yr ardal. Mae gwasanaethau eirioli:

 

·         yn cael eu harwain gan farn a dymuniadau’r unigolyn;

·         yn hyrwyddo hawliau ac anghenion yr unigolyn;

·         yn gweithio er budd yr unigolyn;

·         yn cael cyhoeddusrwydd da, yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio;

·         yn darparu cymorth priodol i unigolion gan ystyried eu hanghenion penodol;

·         yn cael eu rheoli’n dda ac yn rhoi gwerth am arian;

·         yn gwrando ar, ac yn adlewyrchu safbwyntiau a syniadau unigolion i wella’r

gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu;

·         yn ymatebol ac yn darparu cymorth a chyngor yn gyflym pan gysylltir â nhw

·         yn gweithredu yn unol â lefel uchel o gyfrinachedd ac yn sicrhau bod unigolion ac asiantaethau partner yn ymwybodol o’u polisïau cyfrinachedd;

·         yn meddu ar weithdrefn gwyno effeithiol a hawdd ei defnyddio;

·         yn datblygu polisïau clir i hyrwyddo materion cydraddoldeb a monitro

gwasanaethau i sicrhau nad oes neb yn dioddef gwahaniaethu.

 

81.    Mae’n rhaid i’r eiriolwr fod yn annibynnol i’w galluogi i weithredu ar ran yr unigolyn. Os oes modd, dylai gwasanaethau eirioli gael eu hariannu a’u rheoli mewn ffordd sy’n sicrhau annibyniaeth o’r sefydliad comisiynu. 

 

82.    Yr arfer presennol yng Nghymru ar hyn o bryd yw sicrhau annibyniaeth drwy gomisiynu gwasanaethau eirioli gan ddarparwr allanol sy’n cryfhau’r canfyddiad a’r teimlad bod y gwasanaeth yn annibynnol. Er mwyn cynnal trefniadau eirioli annibynnol, dylai comisiynwyr a darparwyr sicrhau bod unrhyw faterion yn ymwneud â her a gwrthdaro yn dryloyw ac yn gadarn, a’u bod yn cael eu nodi a’u datrys yn y cytundeb lefel gwasanaeth rhwng comisiynydd a darparwr y gwasanaeth. Yn yr un modd, dylai darparwyr gwasanaethau eraill i'r comisiynwyr sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau neu ganfyddiad o wrthdaro buddiannau.


 

 

 

16. Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli

 

 

83.   Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o wasanaethau eirioli ac yn gallu dod o hyd iddynt os oes angen y gwasanaethau hyn arnynt neu os byddant o fudd iddynt. I wneud hyn, bydd angen sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn fformatau hygyrch a phriodol a bod y grwpiau sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth. Mae’r tabl yn Atodiad 3 yn nodi’r meysydd allweddol lle mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried anghenion unigolion ar gyfer eiriolaeth.

 

84.   Fel rhan o’u hasesiad o’r boblogaeth, mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol asesu ystod y gwasanaethau eirioli yn eu hardal a sicrhau a hyrwyddo eu hargaeledd fel rhan o’u portffolio o wasanaethau ataliol.

 

85.   Fel rhan o’u dyletswyddau cyffredinol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau ar waith i helpu pobl i atal, oedi neu leihau eu hanghenion gofal a chymorth. Mae’n rhaid i hyn gynnwys cyfeirio unigolion at wasanaethau eirioli.

 

86.   Mae’n bosibl y bydd angen gwasanaethau eirioli ar rai unigolion i’w galluogi i ddefnyddio’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy. Yn yr un modd, bydd anghenion unigolion ar gyfer gwasanaethau eirioli yn cynyddu ar sail ble maent yn cael eu lletya. Er enghraifft, gofal maeth, cartrefi plant, cartrefi gofal a mathau eraill o lety preswyl, cynlluniau tai gwarchod a chynlluniau cysylltu bywydau.

 

87.   Mae comisiynu a darparu gwasanaethau eirioli yn effeithiol yn helpu i sicrhau bod materion yn cael eu canfod yn gynnar a’u datrys yn gynnar, fel bod pryderon a phroblemau’n cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.

 

88.   Os yw awdurdodau lleol yn comisiynu gwasanaethau fel rhan o’u dyletswyddau o dan y Ddeddf, dylent ystyried ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ddarparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli yn eu hardal a sut i gael gafael ar wasanaethau eirioli.  

 

89.   Dylai awdurdodau lleol ddiweddaru’n rheolaidd yr wybodaeth a’r deunydd cyhoeddusrwydd ynglŷn â gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc, staff a gofalwyr maeth, a sicrhau bod staff a gofalwyr newydd yn gallu rhoi gwybod yn iawn i blant a phobl ifanc pa gymorth sydd ar gael iddynt.

 

90.    Mae Rheoliadau sydd wedi’u gwneud o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016[2] yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaethau gofal cymdeithasol baratoi canllaw ysgrifenedig i’r gwasanaeth. Rhaid i hwn gynnwys gwybodaeth ynghylch sut i fynegi pryder neu gŵyn, a gwybodaeth ynglŷn â’r gwasanaethau eirioli sydd ar gael. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael cymorth o’r fath, gan fod hyn yn hanfodol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth sydd yn y canllaw.

 

 

 

 

                                                                          

 

17. Codi ffioedd am eiriolaeth

 

91.   Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Codi Ffioedd) (Cymru) 2015 yn atal awdurdodau lleol rhag codi am wasanaethau eirioli sy’n cael ei ddarparu er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan Ran 4 (Diwallu Anghenion) o Ddeddf 2014 sy’n darparu ar gyfer:

 

i)             yr amgylchiadau lle y gall, neu lle mae’n rhaid, i anghenion gofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr gael ei ddiwallu gan awdurdodau lleol;

ii)            sut y bydd yr anghenion yn cael eu diwallu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

18. Ystyried amddifadu o ryddid

 

92.   Os yw’r asesiad o’r gofal a’r cymorth sydd ei angen ar berson i sicrhau ei ganlyniadau llesiant yn golygu y bydd yn cael ei amddifadu o’i ryddid, mae’n rhaid cwblhau’r asesiadau a’r atgyfeiriadau priodol[3]. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i sicrhau ei fod yn cyfyngu cyn lleied â phosibl ar hawliau neu ryddid y person. Dylid ystyried ac adolygu cyfyngiadau yn ofalus. Mae’n rhaid i unrhyw amddifadedd o ryddid gael ei awdurdodi gan Awdurdodiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu gan y Llys Gwarchod fel y bo’n briodol. 

 

93.   Dylai awdurdodau lleol ystyried sut y gellir defnyddio gwasanaethau eirioli mor gynnar â phosibl yn y broses os yw’n dod i’r amlwg y gall y trefniadau diogelu Rhag Colli Rhyddid fod yn berthnasol i unigolyn maes o law oherwydd ei anghenion cynyddol ar gyfer gofal a chymorth.

 

94.    Os oes achos o golli rhyddid, dylai awdurdodau lleol ystyried yr angen i benodi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

                                                                          

 

19. Gwasanaethau eirioli sy’n bodoli’n barod

 

95.   Yn ogystal â’r ddarpariaeth yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae nifer o ddarpariaethau statudol gwahanol sy’n gosod gofynion ynghylch eiriolaeth, fel y’u rhestrir isod ac fel y’u nodir yn Atodiad 4.

 

·         mae adran 130E o’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn darparu ar gyfer penodi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol;

·         mae adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu ar gyfer penodi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol;

·         eiriolwr a benodir ar ran plentyn neu berson ifanc (plentyn â hawl) at ddibenion gwneud sylwadau o dan adran 178 o’r Ddeddf;

·         eiriolwr a benodir o dan adran 332BB o’r Ddeddf Addysg neu baragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010; neu

·         eiriolwr a benodir o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

 

96.   Bydd adegau pan fydd y gwahanol hawliau i eiriolaeth statudol yn gorgyffwrdd.

 

97.    Er enghraifft, yn ystod trafodaethau ynglŷn â chanlyniadau llesiant unigolion, mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn nodi dyletswydd i ddarparu Eiriolwr Galluedd Meddyliol annibynnol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, megis pan fydd angen gwneud penderfyniad am lety tymor hir yr unigolyn.

 

98.   O dan yr amgylchiadau hyn, dylid ystyried manteisio ar y cyfleoedd, lle bo hynny’n briodol, i sicrhau parhad o safbwynt anghenion eirioli unigolion a lleihau dyblygu, gan gynnwys yr angen i’r unigolyn orfod ailadrodd ei brofiadau a’i ganlyniadau dymunol i eiriolwyr gwahanol. Os oes modd, dylai’r partïon geisio cytuno ar un eiriolwr i gynorthwyo’r person.

 

99.   Dylid bod yn ofalus wrth benodi/cyfarwyddo un eiriolwr i gyflawni mwy nag un hawl eiriolaeth, gan fod rhaid i’r eiriolwr fodloni’r gofynion neu gael ei awdurdodi (fel y bo’n berthnasol) i gyflawni pob un o’r swyddogaethau eirioli y caiff ei gyfarwyddo i’w gwneud. 

 

100.   Os na fydd yn bosibl/yn ymarferol penodi un eiriolwr i gyflawni mwy nag un hawl i eiriolaeth, dylai’r eiriolwyr gyd-drafod/cydweithio lle bo modd, er mwyn lleihau’r angen am ddyblygu, a’r unigolion yn gorfod ailadrodd eu profiadau.

 

101.  Bydd y cynlluniau a’r strategaethau sy’n cael eu paratoi mewn ymateb i’r asesiad o’r boblogaeth yn dangos trefniadau comisiynu awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar gyfer gwasanaethau eirioli, gan eu galluogi i nodi ac ymateb i orgyffwrdd posibl yn y trefniadau.

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                          

 

20. Eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc eraill â hawl

 

102.  Mae eiriolaeth yn grymuso plant â hawl ac yn sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu a bod eu barn a’u dymuniadau yn cael eu hadlewyrchu’n llawn wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau. Mae eiriolaeth yn fesur diogelu ychwanegol yn erbyn y perygl o gamdriniaeth hefyd. Mae eiriolaeth yn gallu sicrhau bod cymorth a chefnogaeth yn cael eu darparu a bod pryderon yn cael eu hystyried a’u datrys yn effeithiol. Mae eiriolaeth yn cefnogi cyfranogiad yn y prosesau o wneud penderfyniadau ac yn sicrhau bod barn a dymuniadau unigolion yn cael eu clywed bob amser.

 

103. Mae’n rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu eiriolaeth i’r plant a’r bobl ifanc a ganlyn (‘plentyn/plant â hawl’):

 

·         plentyn sy’n derbyn gofal, neu blentyn nad yw’n derbyn gofal ond a allai fod ag anghenion gofal a chymorth;

·         plentyn y mae Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig mewn grym ar ei gyfer;

·         plentyn sydd wedi’i fabwysiadu neu a allai gael ei fabwysiadu; neu

·         berson ifanc a oedd gynt yn blentyn oedd yn derbyn gofal fel y’i diffinnir o dan adrannau 176 ac 104 o’r Ddeddf

 

sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud sylwadau (gan gynnwys cwynion) o dan adran 174 neu adran 176 o’r ddeddf, ynglŷn â’r modd y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau o dan:

 

·         Ran 3 (asesu anghenion); Rhan 4 (diwallu anghenion); Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol); Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya); a Rhan 7 (diogelu) o’r Ddeddf;

·         Adran 14F (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig), Rhan 4 (gofal a goruchwylio) a Rhan 5 (amddiffyn plant) o Ddeddf Plant 1989; a/neu

·         Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (o ran plentyn sydd wedi’i fabwysiadu neu a allai gael ei fabwysiadu).

 

104. Mae darparu gwasanaeth eirioli i blentyn neu berson ifanc sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud sylwadau o dan adrannau 174 ac 176 o’r Ddeddf yn wasanaeth ‘eirioli’ at ddibenion paragraff 7(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac yn unol â hynny mae’n wasanaeth rheoleiddiedig y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â’r darpariaethau/gofynion a nodir yn Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

 

 

 

 

 

 

21. Dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol i blant a phobl ifanc

 

105. Mae’r Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol (NASA) yn ddull gweithredu safonedig ar gyfer y gwasanaethau eirioli statudol a ddarperir gan y chwe Cydweithredfa Gwasanaethau Cymdeithasol Rhanbarthol.

 

106. Mae’r NASA yn nodi’r disgwyliadau cenedlaethol cyffredin o ran sicrhau bod eiriolaeth (annibynnol proffesiynol) ar gael a bod pobl yn gallu cael mynediad ato. Caiff y NASA ei ategu gan y Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol, sy’n elfennau cyffredin mewn manyleb gwasanaeth a thempled adrodd. Mae’r NASA yn atgyfnerthu ac yn diogelu cynnig a phrofiad cyson i blant ac ymarferwyr. Mae’n darparu tystiolaeth bellach er mwyn datblygu a gwella yn y dyfodol drwy adroddiadau meintiol ac ansoddol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

 

107. Mae cynnig gweithredol o eiriolaeth yn rhan o’r NASA a chaiff ei ddarparu dan yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff 107 isod.

 

108. “Mae plant a phobl ifanc yn gymwys i gael cynnig eiriolaeth gan Eiriolydd Proffesiynol Annibynnol statudol pan fyddant yn dechrau derbyn gofal neu'n dod yn destun ymchwiliad amddiffyn plant sy'n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol”. (Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol ar Gyfer Plant aPhobl Ifanc yng Nghymru)[4]

 

Cynnig Gweithredol i Blant a Phobl Ifanc

 

 

 

 

22.Dewis eiriolwr i blant a phobl ifanc

 

109.  Mewn rhai achosion, bydd plentyn â hawl eisiau dewis ei eiriolwr ei hun, er enghraifft, perthynas, athro, gofalwr, ffrind neu aelod o’r teulu. Dylid helpu plant i ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt a’r gwahaniaethau rhwng yr opsiynau, a’u helpu hefyd i ddeall y gwahaniaethau rhwng y math o gymorth sydd ar gael. Dylent, felly, allu gwneud dewis ar sail gwybodaeth rhwng eiriolaeth leyg ac eiriolwr proffesiynol annibynnol.

 

110. Caiff plant â hawl fynd ati i ddewis eiriolwr oni bai bod y rheoliadau[5] yn gwahardd y person rhag gweithredu fel eiriolwr, neu fod yna wrthdaro buddiannau na ellir eu datrys yn foddhaol i alluogi’r person i weithredu fel eiriolwr.

 

111.  Wrth wneud trefniadau i ddarparu cymorth, gan gynnwys eiriolaeth, i blentyn neu berson ifanc, ni chaiff awdurdod lleol ganiatáu i’r cymorth gael ei ddarparu:

 

(a)  gan berson sy’n destun i’r sylwadau neu a allai fod yn destun iddynt;

(b)  gan rywun sy’n gyfrifol am reoli person sy’n destun i’r sylwadau neu a allai fod yn destun iddynt;

(c)  gan rywun sy’n rheoli’r gwasanaeth sy’n destun i’r sylwadau neu a allai fod yn destun iddynt;

(d)  gan rywun sy’n rheoli’r adnoddau a ddyrannwyd i’r gwasanaeth sy’n destun i’r sylwadau neu a allai fod yn destun iddynt;

(e)  gan rywun sy’n ymwneud â’r broses o ystyried y sylwadau ar ran yr awdurdod lleol, neu a allai ymwneud â’r broses honno;

(f)   os yw’r plentyn neu’r person ifanc sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud sylwadau yn gwrthwynebu i’r person hwnnw ddarparu’r cymorth.

 

112.  Bydd angen i awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth benderfynu a oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i allu gwneud ei benderfyniad ei hun ynglŷn â mater penodol. Os nodir bod gan y plentyn alluedd o’r fath, nid yw’r gofyniad i sicrhau cydsyniad y person sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn yn berthnasol. Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth eisiau ystyried effaith bosibl peidio â chynnwys y person hwn, gan gynnwys a fyddai’n anniogel gwneud hynny.

 

113. Os oes gan yr awdurdod lleol reswm da i gredu y gallai’r eiriolwr sydd wedi’i ddewis gan y plentyn wneud niwed sylweddol i’r plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod weithredu i amddiffyn y plentyn a cheisio dod o hyd i berson arall, sy’n dderbyniol i’r plentyn, a fydd yn gweithredu fel ei eiriolwr.

 

114. Bydd yr awdurdod lleol yn gwneud cyfraniad allweddol at benderfyniadau ynglŷn â phriodoldeb eiriolwr lleyg sydd wedi’i ddewis gan y plentyn â hawl. Bydd yn hanfodol sicrhau bod hawliau’r plentyn a’i ofynion diogelu yn cael eu parchu fel rhan o’r broses hon.

 

115.  Os yw plant yn gofyn am newid yn y trefniadau eirioli, neu os yw’r angen i wneud hynny wedi dod i sylw’r awdurdod lleol, dylid gweithredu ar hynny.

 

116. Os yw plentyn yn dewis ei eiriolwr ei hun, dylai’r awdurdod lleol hwyluso’r cymorth a’r cyngor sydd ei angen i alluogi’r unigolyn i wneud y gwaith.

 

117. Os yw plentyn neu berson ifanc yn credu nad yw pryder neu broblem yn cael ei datrys, a’i fod yn bwriadu neu’n ystyried gwneud sylwadau, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod plant â hawl yn cael gwybod bod gwasanaethau eirioli annibynnol ar gael a’u bod yn cynorthwyo plant penodedig i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny. Nid oes gan riant neu berson arall sy’n cwyno ar ran blentyn cymwys unrhyw hawliau i eiriolaeth ond gall y plentyn ofyn i’r unigolion hyn, neu berson arall, eirioli ar ei ran.

 

 


 

 

23.Cwynion a sylwadau ar gyfer plant

 

118. Mae Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014[6] a Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014[7] yn sefydlu gweithdrefn y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei dilyn wrth ystyried sylwadau sy’n cael eu gwneud iddynt ynglŷn â chyflawni swyddogaethau penodol o dan Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”) a Deddf 2014, gan gynnwys:

 

·         dynodi uwch swyddog i fod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r

trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol;

·         penodi swyddog cwynion i reoli’r weithdrefn ar gyfer trin ac ystyried cwynion

a sylwadau.

 

119. Gellir penodi swyddogion cwynion ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol. Dylai’r unigolyn fod â digon o allu, awdurdod ac annibyniaeth i reoli’r broses gwynion a sylwadau yn effeithiol. Ni ddylai fod unrhyw wrthdaro buddiannau neu ganfyddiad o wrthdaro buddiannau. Mae’n rhaid i’r Swyddog Cwynion fod yn annibynnol ar reolwyr llinell proffesiynol a darparwyr gwasanaethau uniongyrchol.

 

120. Mae canllawiau manwl ar y broses gwynion a sylwadau, gan gynnwys swyddogaethau a chyfrifoldebau unigolion allweddol fel y swyddog cwynion, yr ymchwilydd annibynnol a’r Person Annibynnol mewn Sylwadau, wedi’u nodi yn y ddogfen Canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau mewn gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol[8].

 

121. Mae eiriolaeth effeithiol yn dibynnu ar blant â hawl yn deall beth yw eiriolaeth a gwybod pryd a sut i’w defnyddio. Mae hyn yn cynnwys cael gafael ar eiriolwr i helpu’r sawl sy’n cwyno i wneud cwynion. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau eirioli i blant â hawl yn rheolaidd, ynghyd â chymorth i ddod o hyd i eiriolwr. Mae’r rôl hon yn hollbwysig yn ystod y broses o asesu, cofnodi ac adolygu anghenion gofal a chymorth plant. Bydd yr elfennau allweddol yn cynnwys enw, rhif ffôn a man cyswllt y gwasanaeth ac yn cynnwys cynnig i hwyluso cyswllt cyntaf â’r gwasanaeth eirioli, neu gymorth i wneud hynny.

 

122. Gall plant sy’n derbyn gofal ac yn cael eu lleoli y tu allan i’r ardal, neu blant ag anawsterau cyfathrebu, fod yn fwy agored i risg. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gan y plant hyn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r gweithdrefnau cwynion a sylwadau, a’u bod yn deall eu hawliau. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cytuno i drefniadau addas â’r rhai sy’n darparu gofal o ddydd i ddydd er mwyn eu bodloni eu hunain bod plant yn deall sut i ddod o hyd i eiriolaeth.

 

123. Bydd hyn yn golygu bod angen ystod o fesurau sy’n adlewyrchu anghenion a pheryglon unigol. Un mesur posibl yw bod yr awdurdod sy’n lleoli’r plentyn yn gwneud trefniadau gyda’i wasanaeth eirioli neu gyda’r awdurdod lleol neu’r gwasanaeth eirioli lle mae’r plentyn wedi’i leoli.

 

124. Bydd y swyddog cwynion yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau bod plant yn ymwybodol o eiriolaeth, a bydd yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant er mwyn codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth a dealltwriaeth o sut i ddod o hyd iddi. Mae gan swyddogion cwynion gyfrifoldebau penodol i sicrhau bod plant â hawl yn ymwybodol o’u rôl ac yn deall eu rôl. Dylai hyn fod yn seiliedig ar drefniadau sy’n:

 

·         ymgynghori â phlant â hawl pan fyddant yn mynegi eu bwriad i gwyno er mwyn eu helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael a sut mae’r weithdrefn gwynion yn gweithio;

·         darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r gwasanaethau eirioli sydd ar gael a chymorth i ddefnyddio’r gwasanaethau hynny;

·         gweithio gyda phlant â hawl a’u heiriolwyr i fynd i’r afael â chwynion, a darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag opsiynau i ddatrys cwynion oddi mewn i’r weithdrefn gwynion, neu drwy ddulliau amgen o ddatrys ac unioni lle bo hynny’n briodol;

·         cadw cofnod ysgrifenedig o’r cwynion a wnaed, y weithdrefn a ddilynwyd a’r canlyniad.

 

125. Mae gweithwyr proffesiynol allweddol eraill a gweithwyr allweddol eraill yn gwneud gwaith tebyg i sicrhau bod plentyn â hawl yn ymwybodol o eiriolaeth ac yn derbyn cymorth i’w defnyddio os ydynt yn credu bod y plentyn yn ystyried neu’n bwriadu gwneud sylw neu gŵyn. Bydd y gweithwyr hyn yn cynnwys staff gofal cymdeithasol, swyddogion adolygu annibynnol, staff addysg, staff iechyd, staff gofal preswyl, rhieni maeth, staff y trydydd sector a’r rhai sy’n arfer cyfrifoldebau goruchwylio neu reoli ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer unrhyw un o’r unigolion hyn. Yn yr un modd, bydd angen i aelodau etholedig sydd â chyfrifoldeb rhianta corfforaethol ffurfiol neu anffurfiol ar gyfer plant â hawl eu bodloni eu hunain bod plant a staff yn deall ac yn arfer eu hawliau.

 

126. Mae swyddogion adolygu annibynnol yn monitro’r broses o adolygu cynlluniau gofal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol ac yn herio arferion gwael gan awdurdodau lleol, gan gynnwys gadael i ofal lithro. Mae swyddogion adolygu annibynnol yn cadeirio cyfarfodydd adolygu ac yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cynnwys y plentyn ac oedolion perthnasol yn ei broses adolygu. Mae ganddynt gyfrifoldeb penodol i sicrhau bod plant yn ymwybodol o’u hawl i eiriolaeth. 

 

127. Mae’n rhaid i’r broses eirioli a’r broses gwyno gydredeg â chamau gweithredu’r swyddog adolygu annibynnol wrth ddatrys problem, a bydd yn ymarfer da i’r swyddog adolygu annibynnol, y swyddog cwynion ac unrhyw eiriolwr gytuno ar ddulliau cyfathrebu, ac ar eu swyddogaethau, er mwyn datrys cwynion.

 

128. Rôl yr eiriolwr yw cynorthwyo’r plentyn â hawl i gychwyn y gweithdrefnau cwyno a’i gynorthwyo i barhau â’i gŵyn nes ei bod yn cael ei datrys. Rôl yr eiriolwr yn y gweithdrefnau cwyno yw:

 

·         grymuso’r plentyn drwy ei alluogi i fynegi ei farn, ei ddymuniadau neu ei deimladau, neu drwy siarad ar ei ran;

·         ceisio datrys unrhyw broblemau neu bryderon sydd wedi’u nodi gan y plentyn;

·         siarad ar ran neu gynrychioli’r plentyn yn ystod pob cam o’r gweithdrefnau cwyno drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy;

·         darparu gwybodaeth i’r plentyn am ei hawliau a’i opsiynau, gan helpu i egluro’r gŵyn a’r canlyniadau y mae’r plentyn am eu sicrhau;

·         annog y plentyn i gadw’i gofnod ie hun o’r gŵyn, fel ffordd o ddod yn rhan o’r broses.

 

129. Dylai gweithdrefnau cwynion a sylwadau gael eu cynllunio, eu comisiynu a’u gweithredu mewn ffordd sy’n annog plant â hawl i leisio eu barn ac yn annog penderfynwyr i wrando ar eu safbwyntiau. Mae gweithdrefnau cwyno ac eirioli effeithiol yn gweithredu mewn diwylliant sy’n hyrwyddo arferion cyfranogol, yn annog adborth ac yn defnyddio adborth i lywio gwelliant. Mae’n elfen bwysig, felly, o fframwaith rheoli perfformiad a gwelliant.

 

130. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol fod â dulliau cyfathrebu a chyhoeddusrwydd cadarn er mwyn sicrhau bod plant, gan gynnwys y rhai ag anghenion cyfathrebu ychwanegol, yn ymwybodol o’u hawl i wneud cwyn a derbyn cymorth drwy eiriolaeth. Mae’n rhaid i hyn gynnwys

 

·         darparu gwybodaeth ar gyfer plant â hawl am y gwasanaethau eirioli a’r gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael;

·         hysbysu plant â hawl am eiriolaeth pan fyddant yn bwriadu neu’n dymuno gwneud cwyn;

·         darparu help a chymorth os yw plant â hawl eisiau eiriolwr i siarad ar eu rhan.

 

131. Pan fydd awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc eisiau gwneud cwyn, dylai ddarparu deunyddiau a chanllawiau addas i’r oedran ynglŷn â gwneud cwyn. Hefyd, dylid rhoi gwybodaeth am hawliau/eiriolaeth plant i bob plentyn a pherson ifanc sy’n cael eu hasesu ar gyfer anghenion gofal a chymorth a phan fyddant yn dod yn blant sy’n derbyn gofal. Dylid cofnodi yn ffeil y plentyn fod yr wybodaeth hon wedi’i darparu, a dylai’r swyddog adolygu annibynnol adolygu hyn ar ôl pob cyfarfod adolygu ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal.

 

 

 


 

 

                                                                          

 

Atodiad 1: Rôl yr Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol

 

1.    Bydd yr eiriolwr proffesiynol annibynnol yn penderfynu gyda’r unigolyn y maent yn eirioli ar ei ran beth yw’r ffordd orau o gynorthwyo a chynrychioli’r unigolyn hwnnw.

 

2.    Lle bo modd, bydd yr eiriolwr proffesiynol annibynnol yn ceisio cwrdd â’r unigolyn yn breifat i gael gwybod beth yw ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Os nad yw’n bosibl gwneud hyn, bydd yr eiriolwr yn cofnodi’r rhesymau pam, yn ei farn broffesiynol, na fu modd gwneud hynny.

                                                                                                                       

3.    Os oes gan unigolyn alluedd, rhaid i’r eiriolwr proffesiynnol annibynnol ofyn am eu cydsyniad i siarad ag unrhyw drydydd parti ynglŷn â’r materion penodol y maent yn cynorthwyo’r unigolyn gyda hwy.

 

4.    Os nad oes gan yr unigolyn alluedd, dylai ymgynghori ddigwydd os yw’r eiriolwr o’r farn mai dyma’r llwybr gweithredu mwyaf priodol ac y byddai hynny’n galluogi i farn yr unigolyn gael ei chasglu a’i chyfleu’n briodol ac yn ddigonol.

 

5.    Mae gweithredu fel eiriolwr ar gyfer unigolyn sy’n wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at brosesau perthnasol yn ymwneud ag asesu, cynllunio ac adolygu gofal a chymorth neu ddiogelu yn rôl gyfrifol. Dyma rai agweddau arni:

 

•     Mae cynorthwyo person i ddeall y prosesau perthnasol yn golygu bod angen i eiriolwyr proffesiynol annibynnol ddeall polisïau awdurdodau lleol; rolau a phrosesau asiantaethau eraill; y dulliau asesu sydd ar gael; yr opsiynau cynllunio; yr opsiynau sydd ar gael wrth adolygu cynllun gofal neu gymorth; arferion gofynnol ac arferion da ar gyfer ymchwiliadau diogelu yn ogystal ag adolygiadau o ymarfer oedolion neu ymarfer plant.

 

      Cynorthwyo unigolyn i gyfleu eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau wrth weithwyr proffesiynol, gan alluogi’r unigolyn i gymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau lle bynnag y bo modd. Gallai hyn olygu bod eiriolwrproffesiynol annibynnol yn treulio amser gyda’r unigolyn er mwyn ystyried ei anghenion cyfathrebu, ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau a/neu hanes ei fywyd.

 

      Cynorthwyo unigolyn i ddeall sut mae’r awdurdod lleol neu sefydliad arall yn gallu diwallu ei anghenion – er enghraifft, deall sut y gall cynllun gofal a chymorth gael ei deilwra ar gyfer unigolyn; sut y gall gael ei addasu i ddiwallu anghenion penodol; sut y gall fod yn greadigol ac yn gynhwysol; a sut y gall gael ei ddefnyddio i hyrwyddo hawliau person i ryddid a bywyd teuluol.

 

      Cynorthwyo unigolyn i wneud penderfyniadau am ei drefniadau gofal a chymorth drwy, er enghraifft ei gynorthwyo i bwyso a mesur y gwahanol ddewisiadau o ran gofal a chymorth a dewis y rhai sy’n diwallu ei anghenion a’i ddymuniadau orau.

 

 

      Cynorthwyo unigolyn i ddeall ei hawliau o dan Ddeddf, h.y. yr hawl i asesiad sy’n ystyried ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau ac sy’n ystyried barn pobl eraill; ei hawl i sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu, a’i hawl i gael cynllun gofal neu gymorth sy’n adlewyrchu ei anghenion a’i ddewisiadau, ac o safbwynt diogelu, deall ei hawl i sicrhau bod ei bryderon yn cael eu hystyried.

 

      Cynorthwyo’r unigolyn i ddeall ei hawliau ehangach, gan gynnwys ei hawliau i ryddid a bywyd teuluol. Mae hawliau person yn cael eu hategu gan ddyletswyddau’r awdurdod lleol, er enghraifft, dyletswydd i gynnwys unigolyn yn y broses a diwallu ei anghenion mewn ffordd sy’n cyfyngu cyn lleied â phosibl ar ei hawliau.

 

      Cynorthwyo unigolyn i herio penderfyniad neu broses a wnaed gan awdurdod lleol; a herio’r penderfyniad ar ran unigolyn os nad yw’n gallu ei herio ei hun, hyd yn oed os yw’n cael cymorth i wneud hynny.

 

6.    Mae materion diogelu penodol pwysig y mae angen i eiriolwyr proffesiynol annibynnol helpu unigolyn â hwy.

 

Gall hyn gynnwys helpu unigolyn i:

·         benderfynu pa ganlyniadau/newidiadau y mae’n dymuno’u cael;

·         deall ymddygiad pobl eraill sy’n cam-drin/esgeuluso;

·         deall sut y gall amddiffyn ei hun rhag cam-drin neu esgeuluso;

·         penderfynu beth mae’n gallu ei wneud i’w ddiogelu ei hun;

·         deall pa fath o gyngor a chymorth y gall eu disgwyl gan eraill, gan gynnwys y system cyfiawnder troseddol;

·         deall pa rannau o’r broses y mae’n gallu eu rheoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol

·         mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau ynglŷn â’r math o gymorth y gallai fod ei angen arno i sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto, a hefyd er mwyn dod dros y profiad.

 


 

 

 

Atodiad 2: Rôl yr awdurdod lleol yn cynorthwyo’r eiriolwr

 

1.      Disgwylir i’r awdurdod lleol gydnabod mai cyfrifoldeb eiriolwr yw cynorthwyo a chynrychioli person sy’n wynebu rhwystrau i gyfrannu’n llawn at brosesau’r awdurdod lleol. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau gan eiriolwr. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad gan eiriolwr sy’n amlinellu pryderon ynglŷn â sut mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu, y penderfyniad sydd wedi’i wneud neu’r canlyniad arfaethedig. Dylai’r awdurdod lleol ddeall bod rôl yr eiriolwr yn cynnwys ‘her’ ar ran yr unigolyn.

 

2.      Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod y bobl berthnasol sy’n gweithio i’r awdurdod neu sy’n darparu gwasanaethau a chymorth ar ran yr awdurdod yn ymwybodol o wasanaethau eirioli, y dewis sydd gan unigolyn i ofyn i rywun eirioli ar ei ran a dyletswydd yr awdurdod i ddarparu eiriolaeth broffesiynol annibynnol. Mae’n bosibl y bydd yn ymgysylltu â’r eiriolwyr i helpu i godi ymwybyddiaeth.

 

3.      Dylai’r awdurdod lleol ystyried ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau ar ei ran i adnabod ac atgyfeirio pobl sydd fwyaf tebygol o fanteisio ar eiriolaeth. Wrth wneud hynny, dylai’r awdurdod lleol ymgysylltu â gweithwyr ac asiantaethau cymorth gofal cartref a gofal preswyl.

 

4.      Dylai’r awdurdod lleol roi camau rhesymol ar waith i gynorthwyo’r eiriolwr i wneud ei waith. Er enghraifft, dylai hysbysu asiantaethau eraill bod eiriolwr yn cynorthwyo person, gan hwyluso mynediad i’r person, ac i’r cofnodion os yw hynny’n briodol. Dylai’r awdurdod lleol gynnig amserlen resymol ar gyfer yr asesiad a’r cynllun gofal a chymorth, gan ystyried anghenion y person. Dylai’r amserlen neilltuo amser i’r eiriolwr ymgynghori ag aelodau’r teulu, ffrindiau neu staff cyflogedig os yw’r eiriolwr am wneud hynny. Dylai’r awdurdod lleol hysbysu’r eiriolwr am unrhyw ddatblygiadau ac am ganlyniad yr asesiad a’r cynllun gofal a chymorth.

 

5.      Gall yr awdurdod lleol wneud cais rhesymol i’r eiriolwr am wybodaeth neu gyfarfodydd yn ymwneud ag unigolion penodol neu waith yr eiriolwr yn fwy cyffredinol, a dylai’r eiriolwr gydymffurfio â cheisiadau o’r fath.

 

6.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau mewn perthynas â gweithio gydag eiriolwr galluedd meddwl annibynnol a ddarperir yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005, yn ogystal â’r dyletswyddau’n ymwneud â gweithio gydag eiriolwr proffesiynol annibynnol o dan y Ddeddf pan fydd yr eiriolwr hwnnw yn cyflawni’r ddwy swyddogaeth. Mae’r dyletswyddau hyn wedi’u cysoni’n agos er mwyn hwyluso hyn.


 

 

Atodiad 3: Swyddogaethau Awdurdodau Lleol Darparu eiriolaeth ac angen yr unigolyn am gymorth eiriolaeth

 

 

Y swyddogaethau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried fel y’u nodir yn Rhan 2 Swyddogaethau Cyffredinol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Swyddogaethau cyffredinol

 

 

Adrannau

 

Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol

 

14

Gwasanaethau ataliol

 

15

Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector

 

16

Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy

 

17

Rhan 3 – Asesu Anghenion Unigolion

 

 

Asesu anghenion oedolion, plant a gofalwyr

 

19; 21; a 24

Cyfuno asesiadau o anghenion

 

28; 29

Rhan 4 – Diwallu Anghenion

 

 

 

Dyletswyddau a phwerau i ddiwallu anghenion oedolion, plant a gofalwyr

 

35 i 38; 39;

40 i 45

Taliadau uniongyrchol ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr

 

50 i 53

Llunio, cynnal neu adolygu cynlluniau gofal a chymorth

 

54

Hygludedd cynlluniau gofal a chymorth

 

56

Person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol

 

57

Gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi

 

58

Rhan 5 – Codi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol

 

 

Pŵer i osod ffioedd

 

59 i 62

Asesiad ariannol

 

63 i 65

Dyfarniad ynghylch gallu personau i dalu ffi

 

66 i 67

Taliadau gohiriedig

 

68

Codi ffi am wasanaethau ataliol

 

69

Adennill costau

 

70

Creu arwystl dros fuddiant mewn tir

 

71

Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd

 

72

Adolygiadau sy’n ymwneud â chodi ffioedd

 

73

Rhan 7 – Diogelu

 

 

Oedolion sy’n wynebu risg

 

126

Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

 

127

Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risg

 

128

Dyletswydd i hysbysu am blant sy’n wynebu risg

 

 

130

Rhan 9 – Cydweithrediad a phartneriaeth

 

 

Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad; oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr

 

162

Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad; plant

 

163

 

 

Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol

 

164

Hyrwyddo integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd

 

165

Trefniadau partneriaeth

 

166

Adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaeth

 

167

Byrddau partneriaeth

 

168

Rhan 10 – Cwynion a sylwadau

 

 

Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol

Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol: materion atodol

Cynorthwy i achwynwyr

 

173

Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc  

 

174

Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc: darpariaeth bellach  

 

175

Sylwadau sy’n ymwneud â phlant a fu gynt yn derbyn gofal etc   

 

176

Rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau 

 

177

Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau

 

178


Atodiad 4:  Dyletwyddau eirioli statudol eraill  

 

 

(a)   Adran 178 o’r Ddeddf

 

Mae Adran 178 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu cymorth gan gynnwys eiriolaeth, mewn perthynas â;

 

(a)   plentyn sy'n derbyn gofal, plentyn nad yw'n derbyn gofal ond sydd ag anghenion gofal a chymorth, o bosibl, neu blentyn sydd â Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, plentyn sydd wedi'i fabwysiadu neu blentyn a all gael ei fabwysiadu ac sy'n gwneud neu'n bwriadu gwneud sylwadau am swyddogaeth gymwys o dan adran 174.

 

(b)   plentyn a arferai dderbyn gofal sy'n gwneud neu'n bwriadu gwneud sylwadau o dan adran 176.

 

Mae Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy'n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019 yn gwneud darpariaeth o ran y personau a waherddir rhag rhoi cynhorthwy, yr wybodaeth i'w rhoi i'r person sy'n cyflwyno sylwadau, ac ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â'r rheoliadau.  

 

Mae gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n gwneud neu'n bwriadu gwneud sylwadau (gan gynnwys cwynion) sy'n dod o dan adran 174 neu 176 o’r Ddeddf, yn ‘wasanaeth eirioli’ at ddiben paragraff 7(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac yn unol â hynny yn wasanaeth wedi'i Reoleiddio ac yn gorfod cydymffurfio â'r darpariaethau/gofynion a nodwyd yn y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

 

(b)   Adran 35 o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 sy'n darparu ar gyfer penodi Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynol

 

Mae adrannau 35 i 41 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn creu cynllun sydd wedi'i gynllunio i roi mewnbwn eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol os oes angen gwneud penderfyniadau penodol ar gyfer pobl agored i niwed sydd â diffyg galluedd.

 

      Gall hyn gynnwys pobl hŷn â dementia sydd wedi colli cysylltiad gyda'u holl ffrindiau a theulu, neu bobl ag anableddau dysgu difrifol neu broblemau iechyd meddwl hirdymor sydd wedi bod mewn sefydliadau preswyl am gyfnodau hir ac sy’n brin o gysylltiadau y tu allan i'r sefydliadau hyn. Bydd y bobl hyn yn cael eu cynrychioli ac yn cael cymorth pan fydd angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â;

 

(a)   triniaeth feddygol ddifrifol; a/neu

(b)   os bydd y person yn cael lle mewn ysbyty am fwy na 28 diwrnod neu mewn cartref gofal am fwy nag 8 wythnos

 

Mae disgresiwn hefyd i ddarparu eiriolwr galluedd meddyliol annibynnolo dan Reoliad 8 a 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007, mewn perthynas ag adolygiadau gofal (llety) a/neu ddiogelu os nad oes person, ac eithrio'r person sy'n gyfrifol am roi gofal neu driniaeth i berson mewn capasiti proffesiynol neu am dâl, y byddai'n briodol ymgynghori â nhw i benderfynu beth fyddai er lles gorau'r person; a lle byddai o fudd i'r person gael ei gynrychioli a'i gefnogi.

 

Mae Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn rhoi canllawiau a gwybodaeth ynglŷn â sut y mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gweithio yn ymarferol.

 

(c)  Adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 sy'n darparu ar gyfer penodi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol

 

Bydd eiriolwr iechyd meddwl annibynnol yn cael ei benodi o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â chlaf gorfodol cymwys yng Nghymru neu glaf gwirfoddol cymwys o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

 

      Mae gan y cleifion a ganlyn yr hawl i gael cymorth gan eiriolwr iechyd meddwl annibynnol

      

(a)   pob claf a gaiff ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (ac eithrio'r rhai hynny sy'n ddarostyngedig i adrannau 4, 5(2), 5(4), 135 neu 136)

(b)   cleifion a ryddhawyd i driniaeth â goruchwyliaeth yn y gymuned

(c)   cleifion o dan warcheidiaeth

 

      Mae'r hawl i gymorth eiriolwr iechyd meddwl annibynnol hefyd yn berthnasol i'r canlynol:

 

(a)  cleifion anffurfiol sy'n trafod, gydag ymarferydd meddygol cofrestredig neu glinigwr cymeradwy, y posibilrwydd o gael math o driniaeth y mae triniaeth adran 57 yn berthnasol iddi.

(b)  cleifion anffurfiol o dan 18 oed sy'n trafod, gydag ymarferydd meddygol cofrestredig neu glinigwr cymeradwy, y posibilrwydd o gael math o driniaeth y mae triniaeth adran 58A yn berthnasol iddi

 

      Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) Cymru 2011 yn gwneud darpariaeth o ran y gofynion ar gyfer eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol, gan gynnwys gofynion ynghylch eu hannibyniaeth.

 

      Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983, Cod Ymarfer Cymru (Diwygiwyd 2016) yn rhoi canllawiau i weithwyr proffesiynol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

 

(d)   Adran 332BB o Ddeddf Addysg 1996 neu baragraff 6D Atodlen 17 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010

 

Mae Adran 332BB o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu bod rhaid i Awdurdodau Lleol wneud y canlynol;

 

(a)   gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol yn eu hardal;

(b)   cyfeirio unrhyw blentyn, neu gyfaill achos ar gyfer plentyn yn eu hardal sy'n gofyn am wasanaeth eirioli annibynnol, at ddarparwr gwasanaeth.

 

O fewn adran 332BB, Gwasanaethau Eirioli Annibynnol yw gwasanaethau sy'n rhoi cyngor a chymorth (drwy gynrychioli neu fel arall) i blentyn;

 

(a)   sy'n cyflwyno, yn bwriadu cyflwyno neu'n ystyried cyflwyno apêl i'r tribiwnlys anghenion addysgol arbennig; neu

 

sy'n cymryd rhan neu'n bwriadu cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfod o dan Adran 332BA.

 

Mae Paragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu bod rhaid i'r awdurdod lleol wneud y canlynol;

      

(a)   gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol yn eu hardal;

(b)   cyfeirio unrhyw blentyn anabl neu berson sy'n gweithredu fel cyfaill achos i blentyn anabl, yn eu hardal, sy'n gofyn am wasanaeth eirioli annibynnol, at ddarparwr gwasanaeth.

 

Ym mharagraff 6D o Atodlen 17, Gwasanaethau Eirioli Annibynnol yw gwasanaethau sy'n rhoi cyngor a chymorth (drwy gynrychioli neu fel arall) i blentyn anabl sy'n;

 

(a)   gwneud, yn bwriadu gwneud neu'n ystyried gwneud honiad bod corff â chyfrifoldeb wedi mynd yn groes i bennod 1 rhan 6 (Addysg: Ysgolion) oherwydd anabledd y plentyn; neu

 

(b)   yn cymryd rhan neu’n bwriadu cymryd rhan mewn trefniadau datrys anghydfod o dan baragraff 6C

 

(e) Adran 187 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

 

Mae Adran 187, fel y’i nodir isod, yn ymwneud â darparu gwasanaethau eirioli mewn perthynas â chwynion a wnaed, neu y bwriedir eu gwneud o ran swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd.

‘Section 187

(1)The Welsh Ministers must arrange, to such extent as they consider necessary to meet all reasonable requirements, for the provision of independent advocacy services.

(2) “Independent advocacy services” are services providing assistance (by way of representation or otherwise) to individuals making or intending to make—

(a) a complaint under a procedure operated by a health service body, independent provider or independent palliative care provider,

(b) a complaint under section 113(1) or (2) of the Health and Social Care (Community Health and Standards) Act 2003 (c. 43),

(c) a complaint to the Public Services Ombudsman for Wales which relates to a health service body or independent palliative care provider,

(d)  complaint of a prescribed description which relates to the provision of services as part of the health service and—

(i) is made under a procedure of a prescribed description, or

(ii) gives rise, or may give rise, to proceedings of a prescribed description.’



[1] http://asist.co.uk/watching-brief

  [2] http://www.legislation.gov.uk/wsi/2017/1264/made

[3]  Dyma ddolenni at y codau ymarfer ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid:

https://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=744&pid=36235

https://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=744&pid=36239

 

[4] https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-08/fframwaith-safonau-a-chanlyniadau-cenedlaethol-ar-gyfer-plant-a-phobl-ifanc-yng-nghymru.pdf

 

[5]      http://www.legislation.gov.uk/uksi/2004/719/regulation/3/made

[6] http://www.legislation.gov.uk/wsi/2014/1795/pdfs/wsi_20141795_mi.pdf

[7] http://www.legislation.gov.uk/wsi/2014/1794/pdfs/wsi_20141794_mi.pdf

[8] http://gov.wales/docs/dhss/publications/140730complaintscy.pdf